Yn dal hyd at 80 o westeion

Lleoliad Seminar yng Ngorllewin Cymru

Mae Lolfa Carwyn James wedi ei lleoli ar Lefel 3 y Stadiwm ac mae'n ofod perffaith ar gyfer ciniawau cyfeillgar a chyfarfodydd gyda chyfleusterau gwych fel bar preifat, WiFi am ddim a golygfeydd o'r cae.

Os ydych yn chwilio am leoliad ar gyfer cyfarfodydd yng Ngorllewin Cymru, does dim angen edrych tu hwnt i Barc y Scarlets.

Mae Lolfa Carwyn James yn leoliad perffaith ar gyfer cyfarfodydd yng Ngorllewin Cymru. Wedi ei leoli ond 12 munud o'r M4 a gyda pharcio am ddim ar gyfer pob un o'n cwsmeriaid, mae Parc y Scarlets yn hygyrch i bawb.

Mae Lolfa Carwyn James wedi ei lleoli ar drydydd llawr y Stadiwm a gellir mwynhau golygfa banoramig o brif gae y Stadiwm. Mae'r cyfleusterau ychwanegol sydd ar gael yn cynnwys traflunydd a sgrin, 'flipchart' a WiFi am ddim.

Am Carwyn James

Chwaraeodd Carwyn James am y tro cyntaf dros Llanelli RFC ym 1946 pan oedd ond yn 17 oed ac aeth ymlaen i brofi gyrfa hynod ddisglair. Dan ei ddylanwad fel hyfforddwr, daeth Llanelli yn fuddugol bedair gwaith yn y Cwpan Cymreig o 1973 i 1976 a hyfforddodd Llanelli i'w buddugoliaeth enwog yn erbyn y Crysau Duon ym 1972.

Cyfeiriad

Byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi. Dewch i'n gweld!

Cyfeiriad

Parc y Scarlets, Parc Pemberton
Llanelli, Sir Gaerfyrddin
SA14 9UZ

Ffôn

Ffoniwch ni i drafod eich digwyddiad.

Ffôn

Ffoniwch 01554 783900 heddiw!

Ffoniwch Ni Heddiw

Ebost

Cysylltwch â'r tîm heddiw!

Ebost

Ebostiwch info@parcyscarlets.com heddiw!

Anfonwch Ebost

"Hoffwn ddiolch ichi gyd yn y Scarlets a helpodd i wneud ein noson godi arian yn lwyddiant ysgubol. Roedd hi'n noswaith wych a gwnaeth pawb fwynhau'n fawr iawn."

Mike Davies, Cyfarwyddwr HR - Castell Howell

"Rydw i wedi derbyn adborth arbennig gan ein ymwelwyr VIP a llwyddodd Parc y Scarlets i wneud argraff dda iawn arnynt."

James Ross - Talaith Seiri Rhyddion Gorllewin Cymru