Hosts up to 100 Guests
LLEOLIAD CYFARFOD YNG NGORLLEWIN CYMRU
Wedi ei lleoli ar Lefel 3 y Stadiwm, gyda'i golygfeydd godidog o'r cae, digonedd o le a chyfleusterau cynadledda, mae Lolfa Phil Bennett yn berffaith ar gyfer cynadleddau, gweithdai a chyfarfodydd bach i ganolig eu maint.
Ym Mharc y Scarlets, rydym yn falch o fod yn leoliad mwyaf amlbwrpas Gorllewin Cymru, gydag amrywiaeth o ystafelloedd digwyddiadau gwych fel Lolfa Phil Bennett.
Mae Lolfa Phil Bennett wedi ei lleoli ar drydydd llawr y Stadiwm gyda chyfanswm o 216 metr sgwar.
Gyda golau naturiol, system PA wedi ei gynnwys, bar preifat a golygfa banoramig o brif gae y stadiwm; mae Lolfa Phil Bennett yn ddewis naturiol ar gyfer lleoliad cyfarfod yng Ngorllewin Cymru yn ogystal â bod yn ofod delfrydol ar gyfer pob achlysur yn cynnwys ciniawau a phartïon preifat.
Am Phil Bennett
Chwaraeodd Phil Bennett am y tro cyntaf dros Llanelli RFC ym 1966 a datblygodd yrfa rhagorol yn gapten ar y Scarlets am chwe thymor yn olynol o 1973-1979. Chwaraeodd dros 400 gêm a sgoriodd 2,500 o bwyntiau i'w glwb.
Trwy gydol ei yrfa ryngwladol, bu'n gapten ar Gymru yn ystod dwy Goron Driphlyg a Champ Lawn yn ogystal ag ennill 8 cap i'r Llewod.
Cyfeiriad
Byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi. Dewch i'n gweld!Cyfeiriad
Parc y Scarlets, Parc PembertonLlanelli, Sir Gaerfyrddin
SA14 9UZ
Ffôn
Ffoniwch ni i drafod eich digwyddiad.Ffôn
Ffoniwch 01554 783900 heddiw!
Ebost
Cysylltwch â'r tîm heddiw!Ebost
Ebostiwch info@parcyscarlets.com heddiw!
"Hoffwn ddiolch ichi gyd yn y Scarlets a helpodd i wneud ein noson godi arian yn lwyddiant ysgubol. Roedd hi'n noswaith wych a gwnaeth pawb fwynhau'n fawr iawn."
Mike Davies, Cyfarwyddwr HR - Castell Howell
"Rydw i wedi derbyn adborth arbennig gan ein ymwelwyr VIP a llwyddodd Parc y Scarlets i wneud argraff dda iawn arnynt."
James Ross - Talaith Seiri Rhyddion Gorllewin Cymru