Hosts up to 300 Guests
Lolfa Lletygarwch Premiwm
Mae hyblygrwydd y Lolfa Quinnell yn golygu ei fod yn leoliad perffaith ar gyfer cynadleddau mawr, arddangosfeydd bach a mawr yn ogystal â chiniawau gala moethus. Gyda seddi ar gyfer dros 300 o westeion a chyfleusterau aml-gyfrwng gwych, mae'r Lolfa Quinnell yn ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau corfforaethol a phreifat.
Os ydych yn chwilio am leoliad yng Ngorllewin Cymru, does dim angen edrych tu hwnt i Barc y Scarlets.
Mae'r Lolfa Quinnell yn leoliad perffaith ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cynnwys cynadleddau, seminarau, gweithdai, arddangosfeydd yn ogystal â chiniawau gala, cyngherddau, sioeau ffasiwn a llawer mwy. Wedi ei leoli ond 12 munud o Gyffordd 48 ar yr M4 a gyda pharcio am ddim ar y safle, mae Parc y Scarlets yn hygyrch ar gyfer pawb.
Wedi ei enwi ar ôl y llinach Quinnell enwog yn Llanelli, Lolfa Quinnell yw'r ystafell digwyddiadau mwyaf yn y Stadiwm.
Gyda chyfanswm o 684 metr sgwar, mae Lolfa Quinell yn manteisio ar gyfleusterau cegin arbennig a dau far preifat.
Gall y Lolfa Quinnell wasanaethu pob math o ddigwyddiadau. Mae'r Lolfa yn manteisio ar olau naturiol a golygfa banoramig o brif gae y Stadiwm.
Am y teulu Quinnell
Mae'r Lolfa Quinell wedi ei enwi ar ôl llinach Quinell enwog Llanelli; un o fawrion y Scarlets, Cymru a'r Llewod, Derek Quinell a'i dri mab Craig, Scott a Gavin. Dechreuodd Derek Quinell ei yrfa gyda Llanelli RFC ym 1967, roedd yn rhan o'r tîm enwog ym 1972 a ddaeth yn fuddugol yn erbyn y Crysau Duon ac aeth ymlaen i fod yn gapten ar Lanelli ym 1979/80.
Gwaneth Derek ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf dros Gymru ym 1972, ac roedd yn aelod o dîm y Llewod ar dair taith cyn ymddeol ym 1983, wedi ennill cyfanswm o 30 cap rhyngwladol. Chwaraeodd y tri mab Quinell rygbi proffesiynol gydag ymddangosiadau i Llanelli RFC a'r Scarlets.
Cyfeiriad
Byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi. Dewch i'n gweld!Cyfeiriad
Parc y Scarlets, Parc PembertonLlanelli, Sir Gaerfyrddin
SA14 9UZ
Ffôn
Ffoniwch ni i drafod eich digwyddiad.Ffôn
Ffoniwch 01554 783900 heddiw!
Ebost
Cysylltwch â'r tîm heddiw!Ebost
Ebostiwch info@parcyscarlets.com heddiw!
"Hoffwn ddiolch ichi gyd yn y Scarlets a helpodd i wneud ein noson godi arian yn lwyddiant ysgubol. Roedd hi'n noswaith wych a gwnaeth pawb fwynhau'n fawr iawn."
Mike Davies, Cyfarwyddwr HR - Castell Howell
"Rydw i wedi derbyn adborth arbennig gan ein ymwelwyr VIP a llwyddodd Parc y Scarlets i wneud argraff dda iawn arnynt."
James Ross - Talaith Seiri Rhyddion Gorllewin Cymru