Ni all unrhyw leoliad arall yng Ngorllewin Cymru ddal dros 150 o standiau arddangos dan un to tra'n darparu digon o le parcio ar gyfer arddangoswyr a gwesteion. Mae hyblygrwydd y lle, agwedd a lleoliad arbennig gyda'r cyswllt â'r M4 yn gwneud Parc y Scarlets yn leoliad arddangos delfrydol. Roedd cael chwaraewyr y Scarlets yn cerdded o amgylch y standiau yn ychwanegu hyd yn oed mwy i'r arddangoswyr.
Roeddwn eisiau diolch yn fawr am heddiw. Aeth popeth i gynllun ac ni allwn fod wedi gofyn am le gwell i ddechrau fy nghynhadledd cyntaf. Roedd yr holl gynllunio ymlaen llaw a wnaethoch i'm helpu i gael popeth yn gywir yn wych. Diolch yn arbennig i'r tîm ar y diwrnod a oedd yn ardderchog. Hynod gynorthwyol trwy gydol y broses. Roedd yn ddiwrnod gwych a byddaf yn sicr o edrych i drefnu digwyddiadau gyda chi yn y dyfodol. Plis estynwch fy niolch i bawb a oedd yn rhan o'r trefnu i'w wneud yn ddiwrnod hwylus. Rwy'n gwerthfawrogi'ch holl help yn fawr.
Roeddwn i eisiau diolch yn fawr ichi gyd yn y Scarlets a'm helpodd i wneud ein noson godi arian yn gymaint o lwyddiant. Roedd yn noswaith wych a gwnaeth bawb fwynhau yn eithriadol.
Hoffwn fynegi fy niolch diffuant am eich holl help a chymorth gyda'n cyfarfodydd wythnos diwethaf. Ni allwn fod wedi'n plesio'n fwy gyda'r lefel arbennig o drefn a chyfathrebu cyn ein cyfarfodydd a'r ffordd wych y cafon ein derbyn a'n gweini o'r eiliad y cyrhaeddom brynhawn Mercher.
Aeth y tim i'r eithafion i ddarparu'r cyfarfod a'r ardaloedd eraill a ofynnwyd amdanynt yng Nghanolfan Delme Thomas. Cafodd y Lolfa Quinell ei baratoi'n hynod brydferth cyn inni gyrraedd ac ni allai'r tim fod wedi bod yn fwy sylwgar a phroffesiynol. Roedd y bwyd yn ardderchog hefyd.
Rwyf wedi derbyn adborth arbennig gan ein hymwelwyr VIP a gafodd argraff ardderchog gan bopeth am Barc y Scarlets.
Cyfeiriad
Byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi. Dewch i'n gweld!Cyfeiriad
Parc y Scarlets, Parc PembertonLlanelli, Sir Gaerfyrddin
SA14 9UZ
Ffôn
Ffoniwch ni i drafod eich digwyddiad.Ffôn
Ffoniwch 01554 783900 heddiw!
Ebost
Cysylltwch â'r tîm heddiw!Ebost
Ebostiwch info@parcyscarlets.com heddiw!